Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth lywodraethol, rheoleiddiwr iaith |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2 Rhagfyr 1999 |
Pencadlys | Dulyn, Belffast |
Enw brodorol | Foras na Gaeilge |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon |
Gwefan | http://www.gaeilge.ie |
Mae Foras na Gaeilge ("Sefydliad y Wyddeleg") yn gorff statudol sy'n gofalu am yr iaith Wyddeleg ac yn ei hyrwyddo yn y ddwy uned wleidyddol yn Iwerddon, sef 26 sir Gweriniaeth Iwerddon a chwe sir Gogledd Iwerddon. Mae'n un o'r cyrff traws-ffiniol a sefydlwyd yn sgîl Cytundeb Gwener y Groglith. Fe'i sefydlwyd ar yr 2 Rhagfyr 1999, ac yn y 26 sir fe gymerodd drosodd swyddogaeth y cyrff Bord na Gaeilge, An Gúm, ac An Coiste Téarmaíochta, oedd yn gyrff statudol yn y Weriniaeth.